Ystafell Biliards
Roedd ystafelloedd biliards gan sawl Neuadd Les a Sefydliad ym maes glo de Cymru. Yn ôl y disgrifiad isod o’r Rhondda Leader ym 1906 roedd gan yr Ystafell Ddarllen a'r Sefydliad gwreiddiol: "...a billiard room containing two full-sized billiard tables, which is claimed to be one of the finest billiard rooms in the Rhondda Valley."
Ym 1933, roedd gan y Neuadd Les newydd ystafell biliards a oedd yn cynnwys tri bwrdd maint llawn.
Mae Terry Williams, un o'r preswylwyr lleol a oedd yn ymweld â'r neuadd yn rheolaidd, yn cofio cael caniatâd i wylio gemau snwcer yn yr ystafell biliards pan oedd yn fachgen ifanc ond yn gorfod aros nes iddo fod yn llawer hŷn cyn cael caniatâd i chwarae.
Isod ceir detholiad o gofnodion o Archifau Richard Burton mewn perthynas ag Ystafell Biliards a Gemau'r Neuadd.