Llyfrgell
Ym 1902, agorwyd Ystafell Ddarllen a Sefydliad yn Rhif 1 Commercial Buildings ym Mhendyrus â'r nod o ddarparu gwelliant cymdeithasol a deallusol i'r preswylwyr. Roedd yr Ystafell Ddarllen yn cynnwys papurau newydd dyddiol ac wythnosol a chylchgronau yn Gymraeg a Saesneg ac, erbyn 1906, roedd gan y llyfrgell 400 o lyfrau ar ei silffoedd.
Ym 1933, agorwyd y Neuadd Les a Sefydliad presennol ar East Road, gan gynnwys llyfrgell ac ystafell ddarllen. Mae llawer o lyfrau o'r llyfrgell bellach yn cael eu cadw yn Llyfrgell Glowyr De Cymru ym Mhrifysgol Abertawe.
Yn debyg i bob llyfrgell, roedd gan Lyfrgell Sefydliad Penderyus ei rheolau a'i rheoliadau ei hun mewn perthynas â benthyca.
Mae stampiau dyddiad yn y llyfrau'n dangos poblogrwydd y casgliad ym Mhendyrus. Isod ceir rhai o'r llyfrau a oedd yn amlwg yn boblogaidd gyda defnyddwyr y llyfrgell.