Hanes y Neuadd
Agorwyd Ystafell Ddarllen a Sefydliad yn Rhif 1 Commercial Buildings, Pendyrus ym 1902. Adeiladwyd yr adeilad presennol, Neuadd Les a Sefydliad Pendyrus, ym 1933 wedi'i ariannu gan Gronfa Llesiant y Glowyr a chyfraniadau gan gyflogau gweithwyr, cwmnïau glo a'r cyhoedd. Diben gwreiddiol yr adeilad oedd darparu lle i amrywiaeth eang o weithgareddau hamdden - roedd yr islawr yn cynnwys llyfrgell, ystafell ddarllen, ystafell snwcer a gemau ac mae bob amser wedi cael ei ddefnyddio fel lle i sefydliadau lleol gyfarfod. Ar y ddau lawr uchaf, ceir awditoriwm sy'n cynnig lle mawr i gynnal dawnsfeydd ac adloniant ac roedd hefyd yn cael ei ddefnyddio fel sinema. Mae'r taflunwyr gwreiddiol yno o hyd ac mae pobl yn gofyn yn fynych i'r sinema gael ei hailagor.
Mae'r Neuadd yn adeilad rhestredig Gradd II a hon yw Neuadd Les y Glowyr olaf yn y Rhondda Fach. Bu cyfraniadau rheolaidd o gyflogau glowyr lleol yn helpu i adeiladu a chynnal sefydliadau megis Neuadd Les Pendyrus.
Yn ôl un o'r preswylwyr lleol, Tony Maz, a Betty Gosling a fu’n gweithio yno, roedd tu allan y Neuadd yn eithaf arbennig yn ei ddydd.
Mae etifeddiaeth y diwydiant glo â gwreiddiau dwfn yn niwylliant Pendyrus ac, am bron 90 o flynyddoedd, mae'r Neuadd wedi bod wrth galon y gymuned, gan ddod â phobl ynghyd. Yn y blynyddoedd diweddar, caewyd y llyfrgell leol a'r cyfleuster i bobl ifanc, felly mae'r adeilad yr un mor bwysig heddiw ag yr oedd ym 1933. Tony Maz
Dangosir detholiad o gofnodion y Neuadd isod, ac maent yn rhoi syniad o bwysigrwydd y Neuadd i'r gymuned dros y blynyddoedd a sut mae cefnogaeth y bobl leol wedi sicrhau ei llwyddiant parhaus. Betty Gosling